Bydd angen i chi gysylltu â’ch corff ariannu i gael ffurflen gais Lwfans Myfyrwyr Anabl. Fodd bynnag, rydym yn argymell eich bod yn trefnu apwyntiad ac yn siarad â Gweithiwr Achos Anabledd gan fod ceisiadau’n gallu amrywio gan ddibynnu ar y cwrs yr ydych chi’n ei astudio a sut yr ydych chi’n cael eich ariannu.
Gellir trefnu apwyntiad drwy ffonio 01792 606000 neu drwy anfon neges e-bost i myunihub@swansea.ac.uk
Gallwch hefyd alw heibio Derbynfa MyUniHub ym mloc Abbey Stable ar Gampws Singleton neu Ganolfan Wybodaeth y Tŵr ar Gampws y Bae