Mae ASC/Awtistiaeth yn effeithio ar sut mae pobl yn canfod y byd ac yn rhyngweithio gyda phobl eraill.Os hoffech chi ddysgu rhagor am y posibilrwydd efallai bod ASC gennych chi, cysylltwch â’r Gwasanaeth Lles drwy e-bostio wellbeing@abertawe.ac.uk.
Os hoffech chi ddatgan bod gennych chi ddiagnosis o ASC/Awtistiaeth, cwblhewch ein ffurflen ar-lein.
Mae’r Tîm Cyflyrau Sbectrwm Awtistiaeth yn y Gwasanaeth Lles yn cynnig ystod eang o gymorth, gan gynnwys cymorth wrth ymgeisio am Lwfans Myfyrwyr Anabl, sesiynau cymorth unigol, a threfnu addasiadau ar gyfer arholiadau/addasiadau academaidd, ymhlith pethau eraill.Edrychwch ar ein tudalen ar gyfer y Gwasanaeth i Gyflyrau Sbectrwm Awtistiaeth am ragor o wybodaeth.