Os oes gennych chi anabledd, cyflwr iechyd hir dymor, anhawster dysgu penodol (SpLD), neu gyflwr iechyd meddwl, gallech chi fod yn gymwys am gyllid gan y Lwfans Myfyrwyr Anabl (DSA)Diben y lwfans hwn yw talu am gostau neu dreuliau sy'n codi wrth i chi astudio oherwydd eich anabledd.
Tra bod y Gwasanaeth Lles yn ceisio rhoi cymorth yn ystod adegau anodd, efallai na fydd hyn yn ddigon aml ar gyfer anghenion rhai myfyrwyr.Mae DSA yn gallu darparu cymorth cyson drwy mentor arbenigol i rai myfyrwyr (sydd â chyflwr iechyd meddwl neu ASC).Am ragor o wybodaeth, ewch i dudalen gwe Lwfans Myfyrwyr Anabl.