Fe’ch cynghorir yn gryf i gysylltu â Chanolfan Gyngor Undeb y Myfyrwyr am gyngor cyfrinachol a di-dâl cyn cyflwyno’ch apêl. Er mwyn apelio yn erbyn penderfyniad gan y Bwrdd Arholi, dylech gwblhau a chyflwyno i’r Gwasanaethau Academaidd y Ffurflen Gais am Apêl unwaith i chi gael eich hysbysu o benderfyniad y Bwrdd Arholi [Gallech gyflwyno’r ffurflen hon drwy e-bostio: studentcases@abertawe.ac.uk.]
Sylwer, gan fod staff wrthi ar hyn o bryd yngweithio o bell, ni allwn dderbyn ffurflenni apêl, dogfennau neu ohebiaeth drwy’r post ar hyn o bryd. Defnyddiwch y ffurflen ar-lein a’i chyflwyno ynghyd â gwybodaethategol drwy e-bost.
Gellir dod o hyd i’r Ffurflen Gais am Apêl (AR1RD-1-BI) drwy ddilyn y ddolen sydd ar y dudalen Apeliadau Academaidd neu lawrlwytho’r ffurflen o’r adran ‘Ffurflenni a Dogfennau’ ar wefan MyStudies gan y Gwasanaethau Academaidd.
Nid oes angen ichi dalu am gyflwyno apêl. Serch hynny, mae’n rhaid i chi ddangos eich bod yn bodloni un neu ragor o’r rhesymau dilys dros apelio, y mae rhestr ohonynt yn Adran 2.1 y Weithdrefn Apeliadau [sydd ar gael ar-lein ar:
https://myuni.swansea.ac.uk/academic-life/academic-appeals/
Mae’n bwysig eich bod yn cyflwyno’r canlynol yn eich Ffurflen Apêl, neu yn eu hatodi wrth y ffurflen:
- Manylion llawn am y rheswm (rhesymau) dros yr apêl rydych yn dibynnu arnynt; a
- Dyddiadau’r holl asesiadau dan sylw, a manylion amdanynt, a sut y cafwyd effaith ar y rheiny; a
- Thystiolaeth ategol berthnasol.
- Os bydd eich apêl yn seiliedig ar amgylchiadau esgusodol fel rheswm dros yr apêl – darllenwch y “Canllawiau am gyflwyno Apeliadau ar sail Amgylchiadau Esgusodol” sydd ar ddiwedd y daflen hon.