Dyma restr fer nad yw’n holl gynhwysfawr sy’n cynnwys canlyniadau NAD ydynt ar gael wrth apelio:
- Codi marc neu ddosbarth gan ymateb i amgylchiadau esgusodol (e.e. ychwanegu marciau at asesiad/modiwl er mwyn ystyried amgylchiadau esgusodol neu godi dosbarth). Os byddwch yn llwyddiannus yn eich apêl sy’n seiliedig ar amgylchiadau esgusodol byddwch yn cael cynnig i ail-ymgymryd â’r asesiad/au perthnasol.
- Caniatáu i fyfyriwr symud ymlaen i’r lefel nesaf yn ei astudiaethau ac ymgymryd â dysgu/asesu ar gyfer modiwl/au a fethwyd yn ystod y lefel flaenorol (e.e. symud ymlaen i’r drydedd flwyddyn ar yr un pryd ag ymgymryd â modiwl/au a fethwyd yn yr ail flwyddyn).
- Os cawsoch benderfyniad i ail-wneud lefel, ond dewisoch ail-wneud modiwlau a fethwyd er mwyn cael dim ond marciau wedi’u capio yn ystod sesiwn Academaidd 2019/20, ni fydd apêl yn dad-gapio’r marciau hynny.