Os cynhwyswyd hyn yn eich cynnig, mae angen i chi anfon llungopïau o'ch tystysgrifau arholiad atom cyn dechrau'r tymor. Fel arfer bydd angen copïau o'ch cymwysterau uchaf e.e. Safon Uwch, lefel Uwch Gyfrannol, canlyniadau cwrs mynediad etc. Fel arfer nid oes angen copïau o'ch tystysgrifau TGAU arnom. Anfonwch y copïau i'r Swyddfa Derbyn.