Mae Addasu yn broses sy'n rhoi cyfle i fyfyrwyr sydd wedi cael canlyniadau gwell na'r disgwyl ailystyried beth a ble i astudio.
I fod yn gymwys i ddefnyddio'r broses Addasu, rhaid bod eich canlyniadau'n well na'r hyn y gofynnwyd amdanynt yn nhelerau'ch cynnig Dewis Cadarnhaol.
Os ydych am ddefnyddio'r broses Addasu, bydd angen i chi 'Gofrestru ar gyfer Addasu' yn gyntaf yn UCAS Track. Bydd gennych uchafswm o bum niwrnod i gofrestru a sicrhau cwrs arall.
Ewch i wefan UCAS am fanylion llawn y broses Addasu a chyngor manwl ar gymhwysedd.