O fewn eich modiwl, cliciwch ar y cyswllt "Packages and Utilities" o fewn y Panel Rheoli:
Dewiswch "Export/Archive Course" o’r rhestr opsiynau:
Dewiswch os ydych am Allforio Pecyn (allforio eich cwrs) neu Archifo’r Cwrs.
I Archifo
Mae’r sgrin nesaf yn caniatáu i chi ddewis p’un ai i gynnwys yr hanes Grade Center neu beidio,; Gallwch hefyd ddewis os ydych am gopïo dolenni cyswllt yn unig at ffeiliau’r cwrs neu os ydych am gopïo cynnwys y cwrs hefyd:
Cliciwch ar Submit ar ôl i chi ddewis eich opsiynau.
I Allforio
Bydd y Sgrin Nesaf yn caniatáu chi i ddewis p’un ai i allforio’r dolenni cyswllt yn unig at ffeiliau’r cwrs neu i gopïo cynnwys y cwrs hefyd.
Mae Adran 3 y sgrin hon yn galluogi i chi ddewis yn benodol pa ddeunydd/cynnwys yr ydych am ei allforio:
Cliciwch ar Submit ar ôl i chi ddewis eich opsiynau.
Bydd eich allforyn mewn ciw a byddwch yn derbyn e-bost unwaith y mae’r broses wedi’i chwblhau. ;Bydd hyn fel arfer yn cymryd ychydig funudau.
I agor neu gadw’r ffeil, llywiwch yn ôl i’r sgrin Archifo/Allforio, ;Mae’n bosib y bydd angen i chi glicio ar y botwm Adnewyddu.
Bydd y pecyn yr ydych wedi’i allforio bellach yn dangos ar y sgrin honno, ynghyd â stamp dyddiad/amser,; cliciwch ar y cyplysau wrth ymyl y pecyn a dewiswch opsiwn o’r rhestr:
NB: Er eich bod yn gallu cadw cwrs sydd wedi’i archifo, bydd angen i chi gysylltu â’r tîm Blackboard os oes angen help arnoch i adfer yr archif.
Sut ydw i’n creu archif neu allforyn o fy modiwl cwrs Blackboard?
- Diweddariad diwethaf:
- 24-10-2016 12:22
- Awdur: :
- Helen
- Adolygu:
- 1.3
Ni allwch gyflwyno sylw ar y cofnod hwn