Mae'n bosibl graddio'r wikis, ac i'r canlyniadau ymddangos yn y Ganolfan Graddau. Gellir dod o hyd i fanylion ynghylch sut i alluogi'ch wiki i gael ei asesu yn y canllaw "Creu Wiki Newydd”.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn y wiki perthnasol.
Cliciwch ar y botwm Gosodiadau a dewis Asesiadau.
Bydd y sgrin sy'n ymddangos yn rhoi crynodeb bras i chi o'r blogiadau, barnau a sylwadau.
Ceir rhestr ychydig yn fanylach oddi tano, yn dangos cyfranogwyr unigol a dadansoddiad o'u blogiadau.
*Sylwer* - dim ond y rheini sydd wedi agor y wiki fydd yn ymddangos yn y rhestr hon:
I raddio cyfranogiad, cliciwch ar enw'r myfyriwr yr ydych am roi gradd iddo. Bydd blwch yn ymddangos yn gofyn i chi roi gradd am y cyfranogwr hwn. Cliciwch ar y ddolen Golygu i gael y blwch sy'n caniatáu i chi roi marc i'r myfyriwr hwnnw.
Mae'n bosibl rhoi adborth a rhoi nodiadau graddio, mewn modd tebyg i'r hyn y byddwch yn ei wneud yn y Ganolfan Graddau. Ar ôl rhoi'r wybodaeth angenrheidiol, cliciwch ar y botwm Cyflwyno
Asesu eich Wiki
- Diweddariad diwethaf:
- 24-10-2016 18:00
- Awdur: :
- Helen
- Adolygu:
- 1.1
Ni allwch gyflwyno sylw ar y cofnod hwn