Gan gymryd nad ydych ar fin cyrraedd yr amser cau, y lle cyntaf i geisio cymorth yw Cymorth TG. Byddant yn ceisio helpu gyda'ch cyflwyniad, neu'n eich pasio ymlaen i dîm yr Academi Dysgu ac Addysgu Abertawe os na fedrant ddatrys y broblem.
Os ydych chi ar y campws, gellwch ddod o hyd i'r ddesg gymorth TG ym mhrif neuadd gatalogio'r llyfrgell, wrth ochr y Ddesg Benthyciadau. Dyma'r opsiwn gorau, fel y bydd y staff yn gallu gweld beth sy'n digwydd wrth i'r broblem godi, gan ei gwneud yn haws i'w datrys. Fodd bynnag, os na ellwch fynd at y ddesg, cewch ffonio TG ar estyniad 5060 neu 295060 ar linell allanol.
Os ydych yn pryderu oherwydd eich bod wedi'i gadael tan y funud olaf i gyflwyno'r gwaith, ac rydych bellach o'r farn na fyddwch yn gallu ei gyflwyno cyn y dyddiad cau, dylech sicrhau eich bod yn cysylltu â'r darlithydd sy'n gyfrifol am yr aseiniad a/neu swyddfa'ch coleg. Dylent allu rhoi cyngor i chi am yr hyn y bydd eich coleg am i chi ei wneud dan yr amgylchiadau. Er enghraifft, gallant awgrymu eich bod yn cyflwyno copi caled yn y swyddfa, neu anfon copi digidol i'r swyddfa trwy e-bost yn dystiolaeth yr oeddech chi yno mewn pryd hyd yn oed os ydych wedi methu cyflwyno'r gwaith trwy'r system. Gall y prosesau yn y fath amgylchiadau amrywio o goleg i goleg, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn ceisio cyngor o'r bobl berthnasol, yn hytrach nag oddi wrth gyfaill sydd wedi bod yn yr un sefyllfa o'r blaen.