**Oherwydd y sefyllfa bresennol, mae MyUniHub yn gweithredu gwasanaeth ar-lein cyfyngedig. Er na fyddwn yn gallu darparu tystysgrifau newydd neu drawsgrifiadau gwreiddiol gallwn ddarparu datganiadau interim i fyfyrwyr yn cadarnhau eich cwrs, dyddiadau a astudiwyd a gwobr a enillwyd os yn berthnasol.
Mae'r desgiau MyUniHub ar gau, felly, nid ydym yn gallu gweld myfyrwyr wyneb yn wyneb na derbyn ymholiadau ar y ffôn ar hyn o bryd. Cysylltwch â ni ar myunihub@swansea.ac.uk neu cysylltwch â ni ar Sgwrs Fyw yma: https://myuni.swansea.ac.uk/
Oherwydd materion diogelwch, ni ddarperir tystysgrifau dyblyg, ond gellir rhoi copïau ardystiedig o'r dystysgrif. Er mwyn cael copi ardystiedig, rhaid i'r myfyrwyr anfon llungopi o'r ddogfen wreiddiol i myunihub@abertawe.ac.uk, a gaiff ei hardystio fel copi gwirioneddol gan y Brifysgol. Codir ffi weinyddol o £10 am y gwasanaeth hwn (hyd at bum copi ardystiedig). Mae'r ffi'n cynnwys cost cludiant dosbarth cyntaf neu gludiant awyr hefyd.