Efallai y bydd cymorth gyda chostau prawf diagnostig ar gael o Gronfa Cyfle Prifysgol Abertawe. Gall myfyrwyr wneud cais i'r gronfa ar-lein yma: https://intranet.swan.ac.uk/StudentHardship/.
Pe bai'n well gennych chi wneud cais ar bapur, cysylltwch â'r swyddfa am ffurflen gais bapur. Cofiwch y gall ffurflenni cais papur gymryd hyd at 20 diwrnod gwaith i gael eu hasesu yn hytrach na 15 diwrnod gwaith ar gyfer ceisiadau ar-lein.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â ni ar 01792 606699 neu drwy anfon e-bost at Money.CampusLife@abertawe.ac.uk