Mae Logiau Gwe, a adnabyddir fel Blogiau, yn darparu fformat arddull ddyddiadur lle y gall defnyddwyr cyrsiau ychwanegu cofnodion wedi’u ffurfio o destun, a all hefyd gynnwys lluniau, neu ffeiliau eraill. Gellir defnyddio Blogiau am amrywiaeth o ddibenion, megis darparu newyddion, fel dyddiadur personol, neu fel modd o roi gwybod i ddarllenwyr am gynnydd ar brosiect.
Oherwydd eu natur adlewyrchol mae blogiau’n offerynnau defnyddiol y gellir eu defnyddio o fewn dysgu ac addysgu.
O fewn eich modiwl (ac ym maes y cwrs lle yr ydych am gadw eich blog, e.e. Dogfennau Cwrs), cliciwch ar “Tools”
Dewiswch "Campus Pack Blog" o’r gwymplen:
Rhowch y manylion i mewn fel sydd angen, gan gynnwys enw a disgrifiad o’ch blog:
Llenwch y manylion a geisir.; Ar ôl i chi gwblhau hyn, cliciwch ar "Add"
Bydd y dudalen nesaf yna’n eich annog i ychwanegu cofnod. ;Cliciwch ar y botwm;;"Add entry".
Rhowch deitl i’ch neges, ac ychwanegwch eich cofnod gan ddefnyddio’r golygydd testun a fanylir:
Ar ôl i chi orffen, cliciwch ar Gadw. ;Dylech gael eich cludo yna i’ch cofnod blog
Cyflwyniad i Flogiau yn Blackboard
- Diweddariad diwethaf:
- 24-10-2016 11:23
- Awdur: :
- Helen
- Adolygu:
- 1.1
Ni allwch gyflwyno sylw ar y cofnod hwn