Mae’n bosib gosod yr iaith y byddwch yn ei defnyddio i lywio Blackboard. Ceir nifer o ieithoedd sydd wedi’u cefnogi y gall y defnyddiwr ddewis o’u plith.
Rhaid i chi newid eich iaith ragosodol o brif dudalen Groeso Blackboard - felly os ydych wedi’ch mewngofnodi ar hyn o bryd bydd angen i chi allgofnodi yn gyntaf cyn dewis iaith. Gallwch ddod o hyd i flwch dewis iaith ar y Dudalen Groeso sy’n edrych fel hyn
Dewiswch yr iaith yr hoffech ei defnyddio a gwasgwch GO
Dylech yna weld y dudalen groeso unwaith eto ond gyda’r prif reolyddion yn eich iaith ddewisol.; Mae ychydig o bethau y dylech wybod amdanynt cyn newid yr iaith
- I newid yn ôl (neu i iaith arall) dylech ailadrodd y broses gan nodi eich dewis newydd yn y cam uchod - I ddewis Saesneg rhaid i chi ddewis English UK
- Bydd pecynnau iaith dim ond yn cyfieithu’r offerynnau llywio safonol sydd wedi’u rhagosod - ni fyddant yn cyfieithu unrhyw gynnwys neu unrhyw offerynnau llywio lle bo’r geiriau wedi’u golygu o’r derminoleg Blackboard safonol.