Un ffaith nad oes pawb yn ymwybodol ohoni yw wrth i chi allforio delwedd i mewn i dudalen we neu ddogfen ac yn defnyddio’r dull llusgo i leihau ei maint - nid yw hyn yn newid maint y ffeil a lwythir! Felly os ydych yn gosod llun mewn dogfen ac yna’n lleihau’r ddogfen i chwarter ei maint gwreiddiol - mae’r ffeil sydd wedi’i mewnblannu yn dal i fod yn fawr. Mae bob amser yn syniad da lleihau meintiau delweddau i’r ffeil yr ydych ei heisiau cyn eu cynnwys nhw mewn dogfen neu dudalen we (mae eitem Blackboard mewn gwirionedd yn dudalen we).
Gallwch wneud hyn drwy ddefnyddio meddalwedd golygu lluniau megis
Offeryn ailfeintio delweddau Microsoft Power Toys (AM DDIM)
Microsoft Picture Manager (rhan o’r pecyn Office)
Paint.net (Ffynhonnell Agored, Am Ddim, ar gael ar y rhwydwaith dan Library);
Gimp (Ffynhonnell Agored, Am Ddim, ar gael ar y rhwydwaith dan Common Apps)
IrfanView (Am Ddim)
Mwy neu lai unrhyw feddalwedd golygu lluniau
Un o’r manteision o ddefnyddio’r offerynnau golygu lluniau go iawn, gan gynnwys Paint.net sydd ar gael am ddim, yw y byddai’r rhain fel arfer yn ail-samplu delwedd yn hytrach na’i lleihau yn unig. Gall hyn helpu cadw llymder y ddelwedd a wneir yn llai. Fodd bynnag mae’r rhain ychydig yn fwy cymhleth i’w defnyddio ac ym mwyafrif yr achosion mae’r ddau offeryn syml sy’n dechrau’r rhestr yn ddigonol.
Rydym wedi cynhyrchu cyflwyniad sleid byr sy’n dangos sut i leihau meintiau delweddau. Cliciwch Yma i’w weld
Sut ydw i’n gallu lleihau meintiau ffeiliau delwedd?
- Diweddariad diwethaf:
- 24-10-2016 12:26
- Awdur: :
- Helen
- Adolygu:
- 1.1
Ni allwch gyflwyno sylw ar y cofnod hwn