Gall Staff a Myfyrwyr fewngofnodi i Blackboard gan ddefnyddio eu manylion rhwydwaith arferol sef rhan gyntaf eu cyfeiriad e-bost (rhif myfyriwr yn unig i fyfyrwyr) ynghyd â’ch cyfrinair presennol.; Nid yw’n bosib newid eich cyfrinair yn uniongyrchol yn Blackboard a dylech fynd yn lle i https://mypassword.swan.ac.uk a dilyn y cyfarwyddiadau yno i’w newid.; Sylwer bydd y newid hwn yn effeithio ar yr holl systemau megis Cyfrifiaduron mynediad agored, y Fewnrwyd a chyfrifau diwifr, nid Blackboard yn unig.
Mae gan fyfyrwyr opsiwn mewngofnodi unigol trwy fewngofnodi yn http://myuni.swan.ac.uk lle dylent allu dod o hyd i gysylltiadau sy’n mynd â chi at wasanaethau eraill, gan gynnwys Blackboard, heb orfod mewngofnodi eto.
Dylai defnyddwyr allan sydd â chyfrifon wedi’u gosod ar Blackboard yn unig ddefnyddio’r Rhif Adnabod a’r Cyfrinair sydd wedi’u rhoi iddynt.; Mae modd newid y cyfrineiriau allanol hyn yn Blackboard trwy glicio ar eich enw yn y bar uchaf oll - dewiswch Settings tua gwaelod y gwymplen yna Personal Information a Change Password. (Os oes cyfrif rhwydwaith/e-bost prifysgol gennych, ni fydd y broses hon yn gweithio er o bosib y bydd yn ymddangos ei bod wedi).
Am gymorth pellach gyda materion cyfrinair a/neu fewngofnodi cysylltwch ag itsupport@abertawe.ac.uk neu galwch heibio’r Ddesg Gymorth TG yn y Llyfrgell
A wnewch chi raddio’r erthygl hon a gadael sylwadau.; Diolch!; (diweddarwyd yr erthygl yn ddiweddar mewn ymateb i adborth dienw)
Tags: blackboard, change password, password