Caiff yr holl wybodaeth am y cwrs a chronfeydd data defnyddwyr eu storio ar serfiwr ffeiliau canolog ac ategir y rhain yn rheolaidd. Fodd bynnag, er bod gweithdrefnau ategu’n dueddol o fod yn fwy dibynadwy erbyn heddiw mae’n gallu cymryd ychydig o amser i adfer cwrs unigol. Hefyd, os ydych wedi cyflwyno llawer o ddeunydd cwrs ers gweithdrefn ategu’r wythnos ddiwethaf ac mae problem wedi digwydd rhwng hynny a’r weithdrefn ategu nesaf mae’n bosib y gallwch golli’ch gwaith. Dydyn ni ddim yn awgrymu bod unrhyw beryg penodol, dim ond dweud bod ail ategiad yn rhagofal synhwyrol iawn.
Ceir cyfleuster ym Mhanel Rheoli pob safle cwrs/modiwl sy’n caniatáu i chi ei archifo - mae hyn yn gadael eich cwrs yn gyflawn ac yn gwneud copi cywasg o’r holl gynnwys a strwythur. Dim ond ychydig funudau y mae’n ei gymryd ac rydym yn awgrymu eich bod yn dilyn y weithdrefn ar ôl pob diweddariad mawr i’ch safle - neu bob wythnos os yw’r cynnwys yn fwy sefydlog. Gan amlaf, bydd gan gyfarwyddwyr gopïau o’r dogfennau gwreiddiol ond mae’r dull hwn ategu hefyd yn cadw’r strwythur yn ogystal â nodweddion megis grwpiau a thrafodaethau.
Mae’r weithdrefn wedi’i dangos isod - Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn ei dilyn yn rheolaidd. Os oes problem yn digwydd gallwn adfer eich cwrs yn gyflym o’r ffeil archif
Y Weithdrefn Ategu Cam wrth Gam
O fewn eich modiwl, cliciwch ar y ddolen gyswllt "Packages and Utilities" o fewn y Panel Rheoli:
Dewiswch "Export/Archive Course" o’r rhestr opsiynau:
Dewiswch y botwm "Archive".
Mae’r sgrin nesaf yn caniatáu i chi ddewis os ydych am gynnwys yr hanes Grade Centre. Gallwch hefyd ddewis os ydych am gopïo dolenni cyswllt yn unig at y ffeiliau cwrs neu os ydych hefyd am gopïo cynnwys y cwrs:
Cliciwch ar Submit pan rydych wedi gorffen a byddwch yn derbyn e-bost pan fo’r broses wedi’i chwblhau. Unwaith i chi dderbyn yr e-bost rhaid i chi fynd yn ôl i’r ardal archif fel yn y camau cyntaf uchod. Byddwch yn gweld dolen gyswllt at yr archif y mae angen i chi ei lawrlwytho
Adfer o’ch Ategiad
Mae’n annhebygol iawn ond os oes angen i chi adfer eich cwrs bydd rhaid i chi e-bostio’r Tîm Blackboard yn eich sefydliad, a’i farcio fel pwysig. Byddwn un esbonio’r broses adfer i chi dros y ffôn. Mae’n rhaid i ni roi statws gweinyddwr dros dro i chi i wneud hyn.
Ategu Modiwl Blackboard
- Diweddariad diwethaf:
- 24-10-2016 13:07
- Awdur: :
- Helen
- Adolygu:
- 1.1
Ni allwch gyflwyno sylw ar y cofnod hwn