Mae’r swyddogaeth hon yn caniatáu i chi greu cronfa o derminoleg sy’n benodol i’ch pwnc. Mae’n bosib adeiladu’r rhestr termau hon yn unigol neu lwytho ffeil CSV.
I ychwanegu at restr dermau neu i ddechrau un, rhaid i chi fod yn gyfarwyddwr ar y cwrs neu'n arweinydd ar y sefydliad.
O fewn y modiwl, cliciwch ar ddolen y Panel Rheoli ac edrychwch am y cyswllt Offerynnau Cwrs neu Offerynnau Sefydliad.
Cliciwch ar ddolen y rhestr termau:
Rhoddir dau opsiwn i chi: Create Term, Upload/Download:
Bydd y botwm Create Term yn gadael i chi ychwanegu at eich rhestr fesul term. Cliciwch ar y botwm a chwblhewch flychau’r term a’r diffiniad.
Cliciwch ar Submit pan fo hyn wedi’i gwblhau.;
Os hoffech ychwanegu term arall, dewiswch ‘Create Term' ac ailadroddwch y ddau gam blaenorol.
Mae’r opsiwn Upload/Download yn caniatáu i chi lwytho eich rhestr termau o ffeil csv, neu i lawrlwytho eich rhestr termau bresennol.
I Lwytho rhestr termau:
Cliciwch ar Upload/Download a dewiswch yr opsiwn Upload Glossary:
Gofynnir i chi bori am eich ffeil, Dylai’r ffeil fod mewn fformat TXT (tab-amffinio) neu CSV (Gwerth a Wahanir gan Goma).
Rhaid bod y ffeil yn ffeil testun sy’n cynnwys term a diffiniad ar bob llinell. Rhaid bod y term a’r diffiniad ar bob llinell wedi’i wahanu gan goma mewn ffeil coma wedi’i amffinio neu wedi’i wahanu gan tab mewn ffeil tab wedi’i amffinio. Nid oes rhaid i’r termau fod mewn unrhyw drefn benodol.
Gall eich ffeil cael ei chadw naill ai ar eich cyfrifiadur neu yn y casgliad cynnwys:
Mae’r adran nesaf yn caniatáu i chi ddewis beth yr ydych am ei wneud os ydych yn dod o hyd i dermau dyblyg:
I Lawrlwytho Rhestr Termau:
Mae’r botwm Download Glossary yn caniatáu i ddefnyddwyr lawrlwytho’r rhestr termau mewn fformat taenlen.
Cliciwch ar Upload/Download a dewiswch yr opsiwn Download Glossary:
Cliciwch ar Download i lawrlwytho’r rhestr termau, neu Go Back i ddychwelyd at y rheolwr rhestr termau: