Os ydych wedi creu dolenni cyswllt at wefannau allanol gan ddefnyddio’r nodwedd ‘Web Link’, yna bydd y swyddogaeth hon yn eu gwirio drosoch ac yn rhoi gwybod i chi am unrhyw gysylltiadau nad ydynt yn gweithio. Sylwer na fydd y nodwedd hon yn gweithio os ydych wedi gosod dolenni cyswllt gan ddefnyddio’r golygydd testun. ;
Gellir dod o hyd i’r Web Link dan Build Content & Web Link:
I wirio eich cysylltiadau, rhaid i chi fod yn gyfarwyddwr ar y cwrs neu’n arweinydd ar y sefydliad.
O fewn y modiwl, cliciwch ar ddolen y Panel Rheoli ac edrychwch am yr opsiwn Offerynnau Cwrs neu Offerynnau Sefydliad. Oddi yma, cliciwch ar yr offeryn Link Checker
Bydd y cysylltiadau’n ymddangos yn adran 1, ynghyd â manylion o ran a ydyw ar gael o hyd, ac a yw’r ddolen yn weladwy i ddefnyddwyr:
I wneud dolen gyswllt yn anweladwy i ddefnyddwyr, ticiwch y blwch "Hide" wrth ochr y ddolen gyfatebol. Sylwer nad yw hyn yn cael gwared ar y ddolen gyswllt; mae’n ei gwneud yn anweladwy i ddefnyddwyr.
Ar ôl i chi orffen gwirio’ch cysylltiadau, cliciwch ar y botwm Submit.