Mae creu aseiniadau ymarfer yn Turnitin yn caniatáu i fyfyrwyr wneud un cynnig neu ragor cyn y prif gyflwyniad ac iddynt weld yr adroddiad(au) gwreiddioldeb. Sylwer y mae Turnitin yn cyfeirio at y rhain fel "Aseiniadau Adolygu" ac nid ydynt yn effeithio ar y prif gyflwyniad pan gaiff hyn ei wneud yn hwyrach.
I greu aseiniad adolygu, rhaid bod y prif aseiniad eisoes wedi’i greu yn safle’r cwrs - felly os nad yw hyn yn ei le gennych chi yn barod bydd rhaid i chi ei greu yn gyntaf. I sicrhau nad yw myfyrwyr yn drysu rhwng y ddau rydym yn argymell yn gryf bod y dyddiad dechrau ar gyfer y prif aseiniad wedi’i osod AR ÔL y dyddiad cau ar gyfer yr aseiniad adolygu - yn hyn o beth bydd myfyrwyr dim ond yn gweld yr aseiniad adolygu yn gyntaf ac yna’n gweld y prif un pan fo’r cyfnod ymarfer wedi dod i ben.
Gan gymryd bod y prif aseiniad eisoes wedi’i greu, cliciwch ar y botwm "add assessment" glas ar y dudalen lle hoffech osod yr aseiniad ymarfer a dewiswch Turnitin UK Assignment yn ôl yr arfer ond ar y sgrin gyntaf dewiswch "revision assignment"
Yn y sgrin nesaf dewiswch yr aseiniad priodol (h.y. y cyflwyniad aseiniad gwirioneddol),
ychwanegwch y dyddiadau priodol ac unrhyw gyfarwyddiadau i’r myfyrwyr
Penderfynwch os gallent wneud un cyflwyniad ymarfer yn unig neu nifer o gyflwyniadau (NB os ydych yn dewis nifer o gyflwyniadau nid oes modd i chi nodi nifer y cynigion)
UN CYFLWYNIAD YMARFER YN UNIG
NIFER O GYFLWYNIADAU YMARFER
Mae hyn yn dangos sut y bydd y cyflwyniadau’n edrych i chi (sylwer y bydd y prif un dim ond ar gael ar ôl i’r cyflwyniad ymarfer orffen fel y bydd Myfyrwyr dim ond yn gweld yr aseiniad ymarfer i ddechrau)
Mae’r myfyriwr yn cyflwyno’r gwaith yn y ffordd arferol gan ddefnyddio’r cyswllt view/complete ac yna trwy glicio ar y botwm cyflwyno yn "Assignement inbox & portfolio"
Mae’r myfyriwr yna’n cyflwyno’r ffeil drwy’r union broses dau gam fel petaent yn gwneud y cyflwyniad terfynol - gall yr adroddiad gael ei gynhyrchu unrhyw bryd o 1 munud i 24 awr yn ddiweddarach yn dibynnu ar ba mor brysur y mae Turnitin, ond pan maen nhw’n mynd yn ôl i mewn i fewnflwch a phortffolio’r Aseiniad bydden nhw’n gweld y cyflwyniad ynghyd ag opsiwn "show details" i ddangos y manylion - maen nhw’n clicio ar hyn i weld y sgrin lawn
Sylwer os ydych chi wedi caniatáu nifer o gyflwyniadau ceir hefyd botwm i ailgyflwyno (bydd hyn yn trosysgrifo’r adroddiad blaenorol bob tro)
Bydd gan yr olwg ehangedig gofnod dan "report" unwaith i’r adroddiad gael ei greu gan Turnitin ac maen nhw’n clicio ar yr arwydd canran i weld yr adroddiad
Maen nhw yna’n gweld y dangosydd yn union yr un modd ag y byddech chi ond ni fydd rheolyddion amhriodol yn gweithio i fyfyrwyr
Fel cyfarwyddwr gallwch hefyd weld adroddiad y cyflwyniad ymarfer diweddaraf yn y modd arferol
Sut i greu Aseiniad Turnitin ymarfer i fyfyrwyr
- Diweddariad diwethaf:
- 24-10-2016 16:51
- Awdur: :
- Helen
- Adolygu:
- 1.0
Ni allwch gyflwyno sylw ar y cofnod hwn