Mae Prifysgol Abertawe wedi tanysgrifio i Blackboard Mobile Learn ar sail brawf am flwyddyn. Mae app Blackboard bellach ar gael ar gyfer ystod o ffonau smart - cliciwch ar un o’r canlynol am gyfarwyddiadau ynglŷn â sut i lawrlwytho a defnyddio’r ap ar eich dyfais. Efallai y byddwch hefyd am ymweld â’n tudalen Canllawiau ar ddefnyddio’r apps symudol
Apple iPhone / iPod Touch / iPad
Android
Blackberry
Palm
Nid oes ap ar gyfer ffonau Windows ar hyn o bryd
Sylwer bod yr apps hyn dim ond yn caniatáu mynediad at rannau craidd Blackboard ac ni fyddant o bosib yn rhoi mynediad at offerynnau trydydd parti fel yr offerynnau gwrthrychau dysgu (Blogiau, Wikis a Phodledi) neu aseiniadau Turnitin UK Mae dogfennau’n amodol ar alluoedd arddangos pob dyfais ac mae’n bosib na fydd peth cynnwys yn arddangos ar rhai ffonau (ee fideos Fflach ar iOS)
Cyfarwyddiadau ar gyfer iPhone, iPod touch ac iPad
Sut i lawrlwytho’r app Blackboard Mobile Learn
Mae’r app Blackboard Mobile Learn ar gael ar yr Apple App Store chwiliwch am "Blackboard Mobile Learn" i ddod o hyd iddo. Ceir un fersiwn ar gyfer yr iPhone / iPod touch, a fersiwn HD ar wahân ar gyfer yr iPad. (dylai chwilio o’ch dyfais ddod a’r fersiwn cywir)
Sur i fewngofnodi i Blackboard Mobile Learn
Unwaith i chi lawrlwytho ac agor Blackboard Mobile Learn yn llwyddiannus:
Chwiliwch am "Swansea University" gan ddefnyddio’r bar chwilio sy’n agor yn awtomatig wrth i chi agor yr app
Dewiswch drwy dapio "Swansea University" o dan y blwch chwilio
Mewngofnodwch gan ddefnyddio’r un enw defnyddiwr a chyfrinair yr ydych fel arfer yn eu defnyddio i gael mynediad i Blackboard
Ydw i’n gallu diweddaru a chyfrannu cynnwys at unrhyw nodweddion o fy nyfais?
Gan ddefnyddio eich iPhone / iPod touch / iPad, gallwch ddiweddaru byrddau Trafod a diweddaru statws eich Tasgau.
ewch i’n tudalen Canllawiau ar gyfer defnyddio apps symudol
Sylwer os ydych yn canfod nad ydych yn gallu cael mynediad at ddogfennau neu eitemau cynnwys arbennig, fe’ch argymhellir i ddod o hyd iddynt gan ddefnyddio cyfrifiadur neu liniadur - Ni fydd Cymorth TG yn gallu rhoi cyngor i chi ar faterion yn ymwneud â chyfyngiadau ar fathau o ddogfennau yn Mobile Learn
YN ÔL I’R BRIG
Cyfarwyddiadau ar gyfer dyfeisiau Android
Sut i lawrlwytho’r app Blackboard Mobile Learn
Mae’r app Blackboard Mobile Learn ar gael yn yr Android Market. Chwiliwch am “Blackboard Mobile Learn” i ddod o hyd iddo.
Sut i fewngofnodi i Blackboard Mobile Learn
Unwaith i chi lawrlwytho ac agor Blackboard Moile Learn yn llwyddiannus:
Chwiliwch am "Swansea University" gan ddefnyddio’r bar chwilio sy’n agor yn awtomatig wrth i chi agor yr ap
Dewiswch drwy dapio "Swansea University" o dan y blwch chwilio
Mewngofnodwch gan ddefnyddio’r un enw defnyddiwr a chyfrinair yr ydych fel arfer yn eu defnyddio i gael mynediad i Blackboard
Ydw i’n gallu diweddaru a chyfrannu at unrhyw nodweddion o fy nyfais?
Gan ddefnyddio’ch dyfais, gallwch ddiweddaru byrddau Trafod a diweddaru statws eich Tasgau. Bydd y rhain yn weladwy wrth i chi fynd ar y we gan fod Mobile Learn yn cydweddu’n awtomatig gyda’n serfwyr Blackboard
Ewch i’n tudalen Canllawiau ar ddefnyddio apps symudol
Sylwer os ydych yn canfod nad ydych yn gallu cael mynediad at ddogfennau neu eitemau cynnwys arbennig, fe’ch argymhellir i ddod o hyd iddynt gan ddefnyddio cyfrifiadur neu liniadur - Ni fydd Cymorth TG yn gallu rhoi cyngor i chi ar faterion yn ymwneud â chyfyngiadau ar fathau o ddogfennau yn Mobile Learn
YN ÔL I’R BRIG
Cyfarwyddiadau ar gyfer Dyfeisiau Blackberry
Fersiynau BlackBerry sy’n cofnogi Blackboard Mobile Learn
Mae dyfeisiau BlackBerry ag OS 4.3 neu uwch yn cefnogi Blackboard Mobile Learn. Os oes angen i chi uwchraddio’ch meddalwedd, cysylltwch eich ffôn smart BlackBerry i’ch cyfrifiadur gan ddefnyddio’ch cebl USB, ewch i http://na.blackberry.com/eng/services/ devices/#tab_tab_update, a chliciwch ar y botwm “Update”.
Os nad ydych yn gweld botwm “Update”, gwnewch yn siŵr eich bod yn rhedeg yr eitemau canlynol:
1. Windows® Internet Explorer® v5.5 neu’n ddiweddarach, yn rhedeg ar Windows®.
2. Rheolydd ActiveX wedi’i ddarparu gan Research In Motion Ltd. ar eich ffôn smart BlackBerry. Cliciwch ar y Bar Wybodaeth yn Internet Explorer, sydd wedi’i ddangos ar frig y dudalen, a dewiswch “Install ActiveX Control...” i osod y gydran hon.
Sut ydw i’n cael BlackBerry App world ar fy nyfais BlackBerry
Os nad oes gennych BlackBerry App World yn barod, ewch i http://www.blackberry.com/appworld/download o’ch BlackBerry i’w lawrlwytho.
Sut i fewngofnodi i Blackboard Mobile Learn
Unwaith i chi lawrlwytho ac agor Blackboard Mobile Learn yn llwyddiannus:
Chwiliwch am "Swansea University" gan ddefnyddio’r bar chwilio sy’n ymddangos yn awtomatig wrth i chi agor yr ap
Dewiswch Swansea University
Mewngofnodwch gan ddefnyddio’r un enw defnyddiwr a chyfrinair yr ydych fel arfer yn eu defnyddio i gael mynediad i Blackboard
Sut ydych chi’n diweddaru a chyfrannu cynnwys at unrhyw nodweddion o’ch dyfais?
Gan ddefnyddio’ch dyfais, gallwch ddiweddaru byrddau Trafod a statws eich Tasgau. Bydd y rhain yn weladwy wrth i chi fynd ar y we gan fod Mobile Learn yn cydweddu’n awtomatig gyda’n serfwyr Blackboard
Ewch i’n tudalen Canllawiau ar ddefnyddio apps symudol
Sylwer os ydych yn canfod nad ydych yn gallu cael mynediad at ddogfennau neu eitemau cynnwys arbennig, fe’ch argymhellir i ddod o hyd iddynt gan ddefnyddio cyfrifiadur neu liniadur - Ni fydd Cymorth TG yn gallu rhoi cyngor i chi ar faterion yn ymwneud â chyfyngiadau ar fathau o ddogfennau yn Mobile Learn
Cyfarwyddiadau ar gyfer dyfeisiau Palm
Pa fersiynau o HP WebOS sy’n cefnogi Blackboard Mobile Learn?
Mae dyfeisiau Palm â HP WebOS 1.4.5 neu uwch yn cefnogi Blackboard Mobile Learn.
Sut i lawrlwytho’r app Blackboard Mobile Learn
Mae’r app Blackboard Mobile Learn ar gael yn y Palm App Catalog. Chwiliwch am “Blackboard Mobile Learn” i ddod o hyd iddo.