Fel cyfarwyddwr, gallwch reoli pa offerynnau sy’n gyraeddadwy mewn cwrs, p’un ai ar Ddewislen y Cwrs neu mewn Ardal Gynnwys, try newid eu gosodiadau argaeledd.
I wneud hyn, cliciwch ar y ddewislen Customisation yn y panel rheoli:
Dewiswch Tool Availability o’r ddewislen ehangedig:
Bydd y sgrin ganlynol yn rhestru’r holl offerynnau sydd wedi’u sefydlu, ynghyd â manylion o ran a ydynt ar gael, yn weladwy i westeion, yn weladwy i arsylwyr ac yn weladwy yn yr ardal gynnwys:
Caiff offerynnau eu dangos i lawr y golofn ar y llaw chwith yn nhrefn y wyddor. Sgroliwch i lawr i ddod o hyd i’ch offeryn, ac yna sgroliwch ar draws i wirio/addasu’r gosodiadau.
Os yw offeryn wedi’i anablu gan weinyddwr system, ceir cylch gyda llinell drwyddo. Os ydyw ar gael i’w ddefnyddio ond heb ei ddewis, yna bydd bocs ticio gwag. Os ydyw ar gael ac eisoes wedi’i ddewis, bydd y blwch priodol yn cael ei dicio.
Dewiswch neu dad-ddewiswch y blychau ticio priodol i wneud eich offerynnau ar gael/ddim ar gael.
Ar ôl i chi wneud eich newidiadau i gyd, cliciwch ar y botwm Submit.
Troi Argaeledd Offerynnau ymlaen ac i ffwrdd
- Diweddariad diwethaf:
- 24-10-2016 17:22
- Awdur: :
- Helen
- Adolygu:
- 1.1
Ni allwch gyflwyno sylw ar y cofnod hwn