Creu Cyfeireb


Mae cyfeireb yn rhestru'r meini prawf ar gyfer prawf neu aseiniad.
Mae cyfeirebau'n galluogi addysgwyr i ddyfarnu gradd mewn modd cyson, ac yn rhoi adborth gwerthfawr i fyfyrwyr.
1)   Gan sicrhau eich bod yn y cwrs iawn, cliciwch ar Offer Cwrs yn y Panel Rheoli, a dewis cyfeirebau.
2)   Rhowch enw a disgrifiad y gyfeireb.
3)   Mae cyfeireb yn cynnwys rhesi a cholofnau.
      Mae'r rhesi'n cyfateb i'r meini prawf.
      Mae'r colofnau'n cyfateb i lefel y cyflawniad ar gyfer pob maen prawf.
      Gellir ychwanegu neu ddileu rhesi a cholofnau i weddu ag anghenion penodol eich cyfeireb.
4)   Cewch olygu'r testun mewn rhesi a cholofnau hefyd.
5)   Rhowch yr wybodaeth angenrheidiol ym mhob cell o'r gyfeireb.
6)   Cewch ddewis rhoi nifer o bwyntiau neu ystod o bwyntiau ar gyfer pob cell yn y gyfeireb. Rhowch y nifer neu'r ystod yn y celloedd perthnasol.
 7)   Ar ôl i chi orffen, cliciwch ar Cyflwyno. Bydd y gyfeireb newydd yn ymddangos ar y dudalen Cyfeirebau.
Yn y Ganolfan Graddau, cewch ddewis colofn Prawf neu Aseiniad a chysylltu cyfeireb â hi.
Pan fyddwch yn dymuno graddio'r golofn honno, cewch weld y gyfeireb mewn ffenest ar wahân wrth werthuso gwaith myfyrwyr.

Diweddariad diwethaf:
24-10-2016 17:29
Awdur: :
Helen
Adolygu:
1.0
Cyfradd gyfartalog:0 (0 Votes)
 

Ni allwch gyflwyno sylw ar y cofnod hwn

Chuck Norris has counted to infinity. Twice.

Records in this category

10 UCHAF RSS

  1. Beth ydw i’n ei wneud pan fo rhybudd cynnwys ... (833861 views)
  2. Ni allaf fewngofnodi i'm cyfrif ar y fewnrwyd/Blackboard. A ... (671310 views)
  3. Sut i ofyn am fynediad i safle modiwl neu ... (98618 views)
  4. Asesu eich Wiki (85307 views)
  5. Ychwanegu/Rheoli Teclynnau yn eich Podlediad (28222 views)
  6. Asesu eich Blog (23866 views)
  7. Ychwanegu/Rheoli Teclynnau yn eich Wiki (22252 views)
  8. Asesu eich Dyddiadur (13192 views)
  9. Ychwanegu/Rheoli Teclynnau yn eich Dyddiadur (10249 views)
  10. Allforio eich Wiki (6531 views)

Tags