Gweld a Lawrlwytho Hanes Graddio


Mae Hanes Graddio'n dangos tabl sy'n nodi pob newid gradd yn y Ganolfan Graddau hyd yma.

O'r Panel Rheoli, cliciwch ar Canolfan Graddau a dewis Canolfan Graddau Lawn.

Cliciwch ar y tab Adroddiadau a dewis Gweld Hanes Graddio.

Cliciwch ar Lawrlwytho.

Mae'r sgrin nesaf yn caniatáu i chi osod dewisiadau'r lawrlwytho.

Gosodwch fath o amffinydd i bennu fformat y ffeil sy'n cael ei lawrlwytho.

O ddefnyddio atalnod, cewch ffeil testun gyda'r estyniad .CSV.
O ddefnyddio tab, cewch ffeil testun gyda'r estyniad .XLS.
Bydd y ddau fath o ffeil yn agor yn Microsoft Excel.

Cewch gynnwys sylwadau hefyd.

Pan fyddwch yn barod, cliciwch ar Cyflwyno. 

Cliciwch ar y botwm Lawrlwytho i lawrlwytho'r hanes graddio.

Dewiswch Cadw'r Ffeil. Yna, cedwir yr hanes graddio mewn ffeil ar eich gyriant lleol. Cewch agor y ffeil ym Microsoft Excel.

Diweddariad diwethaf:
24-10-2016 17:37
Awdur: :
Helen
Adolygu:
1.1
Cyfradd gyfartalog:0 (0 Votes)
 

Ni allwch gyflwyno sylw ar y cofnod hwn

Chuck Norris has counted to infinity. Twice.

Records in this category

10 UCHAF RSS

  1. Beth ydw i’n ei wneud pan fo rhybudd cynnwys ... (833861 views)
  2. Ni allaf fewngofnodi i'm cyfrif ar y fewnrwyd/Blackboard. A ... (671310 views)
  3. Sut i ofyn am fynediad i safle modiwl neu ... (98618 views)
  4. Asesu eich Wiki (85307 views)
  5. Ychwanegu/Rheoli Teclynnau yn eich Podlediad (28222 views)
  6. Asesu eich Blog (23866 views)
  7. Ychwanegu/Rheoli Teclynnau yn eich Wiki (22253 views)
  8. Asesu eich Dyddiadur (13192 views)
  9. Ychwanegu/Rheoli Teclynnau yn eich Dyddiadur (10249 views)
  10. Allforio eich Wiki (6531 views)

Tags