Mae teclyn yn gymhwysiad bach sy'n gallu eistedd yn eich wiki. Bydd pob teclyn yn caniatáu i'r defnyddiwr edrych ar wybodaeth ychwanegol neu wthio gwybodaeth o'r wiki i lefydd gwahanol.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn y wiki perthnasol.
Cliciwch ar Gosodiadau ac yna Teclynnau.
Yna, cyflwynir dau dab i chi - un ar gyfer teclynnau sy'n cael eu defnyddio ar hyn o bryd a'r llall yn dangos y teclynnau sydd ar gael.
Rheoli Teclynnau
I newid y gosodiadau ar declyn, neu i dynnu'r teclyn o'ch dyddiadur yn gyfan gwbl, cliciwch ar y tab Mewn Defnydd.
Cliciwch ar y teclyn yr hoffech ei ddileu. Bydd unrhyw opsiynau sydd ar gael yn ymddangos ar ochr dde'r dudalen. (Mae'r rhain yn amrywio o declyn i declyn.)
Gwnewch unrhyw newidiadau sydd eu hangen a chliciwch ar Cadw. Ar ôl i chi orffen eich newidiadau i gyd, cliciwch ar Gorffen.
Dileu Teclynnau
Cliciwch ar y tab Mewn Defnydd.
Cliciwch ar y teclyn yr hoffech ei ddileu. Bydd yr opsiynau'n ymddangos ar yr ochr dde.
Cliciwch ar y ddolen Dileu yng nghornel uchaf y dudalen ar y dde.
Bydd blwch cadarnhau'n ymddangos. Cliciwch ar Dileu.
Ar ôl i chi orffen, cliciwch ar Gorffen.
Ychwanegu Teclynnau at eich Wiki
Mae sawl teclyn ar gael i chi eu hychwanegu at eich wiki:
Cliciwch ar y tab Ar Gael.
Ewch at y teclyn yr hoffech iddo ymddangos ar eich wiki. Mae pob teclyn yn cynnwys disgrifiad bras.
Cliciwch ar y botwm Ychwanegu perthnasol.
Ar ôl i chi orffen ychwanegu teclynnau, sgroliwch i lawr i waelod y rhestr a chliciwch ar Gorffen.
Ychwanegu/Rheoli Teclynnau yn eich Wiki
- Diweddariad diwethaf:
- 24-10-2016 17:56
- Awdur: :
- Helen
- Adolygu:
- 1.0
Ni allwch gyflwyno sylw ar y cofnod hwn