Dyddiad Postio
Bydd adborth o Grademark ar gael i chi ei gasglu ar-lein ar ôl yr hyn a elwir yn "dyddiad Postio". Mae hyn yn ddyddiad ac amser a bennir gan eich Coleg neu'ch darlithydd. Os nad ydych yn sicr beth yw'r Dyddiad Postio ar gyfer eich aseiniad, dylech gysylltu â'ch darlithydd neu Swyddfa'ch Coleg.
Ni ddylai neb yn y dosbarth allu cael gafael ar ei adborth tan ar ôl y Dyddiad Postio.
Cyrchu Adborth
Ar ôl y Dyddiad Postio, cewch gasglu'ch adborth.
I wneud hyn: Mewngofnodwch i Blackboard gan ddefnyddio'ch enw defnyddiwr a'ch cyfrinair.
Dewiswch y modiwl perthnasol o'ch rhestr o fodiwlau cyfredol.
Cliciwch ar y tab "Aseiniadau" (neu enw cyffelyb eto, y Coleg unigol sy'n pennu'r enw) yn y fwydlen ar y chwith.
Dewch o hyd i'r aseiniad cywir yn y rhestr, a chliciwch "Gweld/Cwblhau".
Ar y dudalen newydd, cliciwch ar y botwm "Gweld".
Bydd ffenest newydd yn ymddangos, gan ddangos eich aseiniad yn y dangosydd dogfennau.
Bydd yn dangos eich aseiniad ar ochr chwith y sgrin.
I sgrolio trwy'r aseiniad, defnyddiwch y bar sgrolio ar i fyny rhwng yr aseiniad a'r ffenest ochr Sylwadau Cyffredinol.
Os bydd y testun yn rhy fach neu'n rhy fawr, gellwch newid ei faint trwy ddefnyddio'r bar sgrolio bach ym mar gwaelod y dangosydd dogfennau.
Gan ddibynnu ar ddull gweithio'ch marciwr, mae'n bosibl y byddwch yn gweld sylwadau neu flychau glas yn eich aseiniad. Mae rhagor o sylwadau yn y blychau glas. Wrth ddal eich cyrchwr dros y blwch, bydd yn ehangu gan ddangos y sylw a wnaed. Mae'r sylwadau hyn yn cyfateb i'r rhai a fyddai wedi cael eu hysgrifennu ar y papur yn rhan o'r hen arfer o farcio copi caled.
Yn y ffenest ar y dde, byddwch yn gweld yr adran Sylwadau Cyffredinol. Dyma le bydd y marciwr wedi gadael ei asesiad cyffredinol o'r aseiniad yn ei grynswth.