Mae Adran D y ffurflen apeliadau academaidd yn cynnwys dewisiadau ynghylch y canlyniadau er mwyn i chi ddewis rhyngddynt.
Mae’r rhain yn cynnwys:
- Cael gwared â chap ar farciau asesiadau/arholiadau atodol
- Cael caniatâd i sefyll arholiadau/asesiadau atodol
- Cael caniatâd i ail-wneud y flwyddyn astudio
- Cael caniatâd i ail-wneud modiwlau a fethwyd, yn ystod y sesiwn academaidd nesaf
- Cael caniatâd i sefyll arholiadau fel ymgeisydd allanol
- Cael caniatâd i’ch traethawd hir gael ei ail-arholi /i newid ac ail-gyflwyno’ch traethawd hir
Os byddwch yn llwyddiannus yn eich apêl, bydd y canlyniad a gytunir yn unol â’r hyn sy’n ganiataol yn ôl y rheoliadau perthnasol ar gyfer eich rhaglen.