Mae angen inni gael o leiaf 3 mis o gyfriflenni banc ar gyfer yr holl gyfrifon banc sydd gennych chi a'ch partner (os yn berthnasol). Mae angen i ni hefyd gael tystiolaeth o'ch cyllid myfyrwyr, taliadau rhent/morgais, ac unrhyw filiau neu ddyledion yr ydych eisiau i ni eu hystyried wrth ystyried y cais. Nid ydym yn gallu dychwelyd unrhyw ddogfennau, felly gwnewch yn siŵr mai copïau sy'n cael eu darparu ac nid y dogfennau gwreiddiol. Gellir cwblhau ceisiadau a'u cyflwyno yma: https://intranet.swan.ac.uk/StudentHardship/ .
Er mwyn cyflwyno cais, rhaid i bob myfyriwr ddarparu'r canlynol:
- Tystiolaeth o incwm, megis:
- Llythyr hysbysu gan Gyllid Myfyrwyr
- Llythyr dyfarnu bwrsari’r GIG (os ydych yn astudio cwrs a ariennir gan y GIG)
- Llythyr hysbysu am fenthyciad ôl-raddedig
- Llythyr am ysgoloriaeth a/neu fwrsari
- Cyfanswm o dri mis o slipiau cyflog os ydych chi'n gweithio
- Tystiolaeth o wariant, megis:
- Datganiad tenantiaeth neu ddatganiad morgais yn dangos eich enw, y gost fisol a'ch cyfeiriad
- Gwerth un mis o gyfriflenni cardiau credyd/siop eitemedig
- Tystiolaeth o unrhyw gytundebau hur bwrcas neu fenthyciadau personol
- Tystiolaeth o gyfrifon banc, megis:
- Gwerth tri mis o gyfriflenni banc cyfredol ar gyfer pob cyfrif yn eich enw (ac enw'ch partner os yw'n berthnasol) a phob trafodyn dros £100 wedi'i esbonio. Darllenwch y cyfarwyddiadau yn yr adran Manylion Banc i sicrhau eich bod yn darparu'r dystiolaeth gywir
Cofiwch y gallai eich achos arwain at sefyllfa lle bydd angen i chi ddarparu gwybodaeth ychwanegol. Gweler y ffurflen gais ac arnofiwch dros ‘help’ i gael gwybodaeth am wybodaeth ychwanegol sydd ei hangen.