Bydd angen i fyfyrwyr wneud cais i Gyllid Myfyrwyr Cymru (myfyrwyr sy'n byw yng Nghymru), Student Finance England (SFE) (myfyrwyr sy'n byw yn Lloegr), Student Awards Agency Scotland (SAAS) (myfyrwyr sy'n byw yn yr Alban), neu’r Local Education and Library Board (SFNI) (myfyrwyr sy'n byw yng Ngogledd Iwerddon) am eu benthyciadau a grantiau myfyrwyr. Bydd angen i fyfyriwr wneud cais i'r darparwr cyllid yn seiliedig ar ble'r oeddent yn byw cyn iddynt ddod i'r brifysgol. Er enghraifft, bydd myfyriwr a oedd yn byw gartref gyda rhieni yn yr Alban cyn astudio yng Nghymru yn gwneud cais i Student Awards Agency Scotland (SAAS) am gyllid.
Mae rhai cyrsiau'n cael eu hariannu gan y GIG. Yn gyffredinol, gall myfyrwyr ar y cyrsiau hyn dderbyn benthyciad ar gyfradd is gan ddarparwr uchod yn ogystal â chyllid gan y GIG.
Efallai y bydd gan fyfyrwyr gwaith cymdeithasol yr hawl i gael cyllid ychwanegol gan Gofal Cymdeithasol Cymru.
Gall myfyrwyr yr UE wneud cais i Dîm Cyllid Myfyrwyr yr UE am gymorth gyda ffioedd dysgu.
Os hoffech ragor o wybodaeth am unrhyw rai o'r uchod, cysylltwch â ni ar 01792 606699 neu drwy anfon e-bost at money.campuslife@abertawe.ac.uk.