Ym Mhrifysgol Abertawe, rydym yn ymwybodol y gall fod gan fyfyrwyr ystyriaethau ychwanegol a all gyflwyno heriau penodol wrth astudio. Ein nod yw canolbwyntio ein hadnoddau i sicrhau ein bod yn teilwra ein cyngor a'n cymorth yn unol ag amgylchiadau myfyrwyr ac er mwyn goresgyn unrhyw faterion ariannol. Mae myfyrwyr sydd ag ystyriaethau ychwanegol yn cynnwys:
- Y rhai sy'n gadael gofal
- Y rhai sydd wedi'u dieithrio oddi wrth eu teulu
- Y rhai sy’n ofalwyr
- Y rhai sy'n rhieni
- Y rhai sydd ag anabledd / anhawster dysgu penodol
- Myfyrwyr â materion lles
Os nad ydych yn dod o fewn unrhyw un o'r grwpiau hyn ond yn teimlo bod gennych ystyriaethau gwahanol a fydd yn effeithio ar lefel y cyllid myfyrwyr y mae gennych hawl iddo, cysylltwch â ni ar 01792 606699 neu drwy anfon e-bost at money.campuslife@abertawe.ac.uk.