Gall myfyrwyr cartref ac o’r Undeb Ewropeaidd sydd ag anawsterau ariannol wneud cais i Gronfa Cyfle Prifysgol Abertawe. Nid oes gwarant o ddyfarniad i unrhyw fyfyriwr ond, os rhoddir dyfarniad, ni fydd angen ei dalu'n ôl. Am feini prawf cymhwysedd a manylion pellach am Gronfa Cyfle Prifysgol Abertawe, cysylltwch ag Arian@BywydCampws. Gellir cwblhau ceisiadau ar gyfer Cronfa Cyfle Prifysgol Abertawe ar-lein yma: https://intranet.swan.ac.uk/StudentHardship/. I fewngofnodi, defnyddiwch eich rhif myfyriwr a chyfrinair prifysgol arferol. Sicrhewch fod gennych yr holl wybodaeth ofynnol yn barod gan na fyddwch yn gallu cyflwyno'ch cais os oes gwybodaeth ar goll.
Os byddai'n well gennych chi wneud cais ar bapur, cysylltwch â'r swyddfa am ffurflen gais galed. Cofiwch y gall ffurflenni cais papur gymryd hyd at 20 diwrnod gwaith i gael eu hasesu yn hytrach na 15 diwrnod gwaith ar gyfer ceisiadau ar-lein.
Rydych yn cael eich annog i fynd i sesiwn galw heibio i drafod eich sefyllfa gyda chynghorydd. Gellir dod o hyd i'n hamserau galw heibio cyfredol ar-lein: http://www.swansea.ac.uk/cy/arian-bywydcampws/cysylltwchani/