Mae Student Finance England a Chyllid Myfyrwyr Cymru bellach yn cynnig benthyciadau ôl-raddedig.
Gall myfyrwyr o Gymru sy'n byw yn Lloegr gael benthyciad i helpu tuag at gost eu ffioedd dysgu neu gostau byw. Nid yw'r benthyciad hwn yn dibynnu ar brawf modd a bydd yn cael ei dalu i'r myfyriwr mewn rhandaliadau cyfartal yn dibynnu ar hyd ei gwrs. Am y wybodaeth ddiweddaraf, ewch i'r dudalen we i raddedigion: http://www.swansea.ac.uk/cy/ol-raddedig/ffioedd-ac-ariannu/benthyciadauol-raddedig/
Mae cyrsiau addysgu ac ymchwil yn gymwys, ond nid yw myfyrwyr sydd eisoes yn meddu ar radd feistr neu gymhwyster uwch yn gymwys ar gyfer y benthyciad.
Os ydych chi'n byw yn yr Undeb Ewropeaidd / yn weithiwr mudol o’r Ardal Economaidd Ewropeaidd neu’r Swistir / yn blentyn i weithiwr mudol sy’n wladolyn y Swistir neu Dwrci, efallai y byddwch chi'n gymwys ar gyfer y cynlluniau benthyciad ôl-raddedig yng Nghymru a Lloegr.
Os hoffech chi astudio ym Mhrifysgol Abertawe, bydd angen i chi wneud cais am Fenthyciad Ôl-radd Cymru.
Mae Prifysgol Abertawe yn darparu ysgoloriaethau a bwrsariaethau ac mae'r rhain yn cael eu hyrwyddo ar y wefan yma: http://www.swansea.ac.uk/cy/ol-raddedig/ffioedd-ac-ariannu/. Cofiwch nad yw Arian@BywydCampws yn darparu'r rhain felly ni allem ddarparu gwybodaeth bellach amdanynt. Gall myfyrwyr hefyd siarad â'u hadran i ddarganfod p’un a ydynt yn ymwybodol o arian a allai fod ar gael iddynt.
Os ydych chi am astudio PhD, mae Student Finance England a Chyllid Myfyrwyr Cymru wedi cyflwyno'r Benthyciad Doethuriaeth. Gall myfyrwyr wneud cais am fenthyciad o hyd at £25,000 am gydol eu cwrs. Am ragor o wybodaeth, ewch i:
- Student Finance England: https://www.gov.uk/doctoral-loan/what-you-get
- Cyllid Myfyrwyr Cymru: https://www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk/myfyrwyr-ol-raddedig/cwrs-doethurol-%C3%B4l-raddedig.aspx