Os ydych yn gohirio eich astudiaethau am resymau iechyd, rhaid darparu cadarnhad ysgrifenedig gan eich meddyg teulu neu'r ymarferydd meddygol sy'n eich trin eich bod yn barod i ail-gydio yn eich astudiaethau. Dylid anfon hyn at studentrecord@abertawe.ac.uk
Byddwch yn derbyn neges e-bost gan Gofnodion Myfyrwyr yn agos at y dyddiad yr ydych yn disgwyl ail-gydio yn eich cwrs i ofyn i chi ddarparu'r dystiolaeth hon. Unwaith y darperir y dystiolaeth hon, byddwch yn derbyn neges e-bost arall gan Gofnodion Myfyrwyr i roi gwybod i chi pryd y gallwch gofrestru ar-lein. Os ydych am newid y dyddiad dychwelyd i'ch astudiaethau, neu i ymestyn eich gohiriad, dylech chi gysylltu â'ch Coleg.
Mae gwybodaeth bellach am ddychwelyd wedi gohirio ar gael yn Gohirio Astudiaethau