Mae Prifysgol Abertawe wedi sefydlu cronfa fach i ddarparu cymorth brys i fyfyrwyr rhyngwladol sy'n wynebu anawsterau ariannol annisgwyl. Bwriad y Gronfa Argyfwng i Fyfyrwyr Rhyngwladol yw ymdrin â sefyllfaoedd brys yn unig a bydd gofyn i fyfyrwyr ddangos bod ganddynt ddigon o arian ar ddechrau eu cwrs i dalu am gostau byw arferol a ffioedd dysgu.
Am ragor o feini prawf cymhwysedd, cysylltwch ag Arian@BywydCampws. Gellir cwblhau a chyflwyno ceisiadau yma:https://intranet.swan.ac.uk/StudentHardship/.