**Oherwydd y sefyllfa bresennol, mae MyUniHub yn gweithredu gwasanaeth ar-lein cyfyngedig. Er na fyddwn yn gallu darparu tystysgrifau newydd neu drawsgrifiadau gwreiddiol gallwn ddarparu datganiadau interim i fyfyrwyr yn cadarnhau eich cwrs, dyddiadau a astudiwyd a gwobr a enillwyd os yn berthnasol.
Mae'r desgiau MyUniHub ar gau, felly, nid ydym yn gallu gweld myfyrwyr wyneb yn wyneb na derbyn ymholiadau ar y ffôn ar hyn o bryd. Cysylltwch â ni ar myunihub@swansea.ac.uk neu cysylltwch â ni ar Sgwrs Fyw yma: https://myuni.swansea.ac.uk/
Gallwch dalu am eich trawsgrifiad yn bersonol yn nerbynfa'r HybMyfyrio yng Nghampws Parc Singleton neu Gampws y Bae, neu gallwch dalu â cherdyn drwy ffonio 01792 606000 rhwng 8am a 4pm.