Byddwch yn gallu dod o hyd i wybodaeth sy'n ymwneud â'r holl fwrsariaethau ac ysgoloriaethau sydd ar gael i fyfyrwyr israddedig trwy ymweld â'r dudalen we ysgoloriaethau a bwrsariaethau yma: http://www.swansea.ac.uk/cy/ysgoloriaethau/.
Am wybodaeth sy'n ymwneud â'r Fwrsariaeth ar Sail Incwm, bydd angen i chi gysylltu â Chyllid Myfyrwyr, sydd wedi'i leoli yn yr isadran Cofnodion Myfyrwyr, drwy ffonio 01792 602700 neu drwy anfon e-bost at studentfinance@abertawe.ac.uk.
Am wybodaeth sy'n ymwneud â'r ysgoloriaethau rhagoriaeth a theilyngdod, bydd angen i chi gysylltu â Derbyniadau drwy ffonio 01792 295111 neu drwy anfon e-bost at admissions@abertawe.ac.uk.