**Oherwydd y sefyllfa bresennol, mae MyUniHub yn gweithredu gwasanaeth ar-lein cyfyngedig. Er na fyddwn yn gallu darparu tystysgrifau newydd neu drawsgrifiadau gwreiddiol gallwn ddarparu datganiadau interim i fyfyrwyr yn cadarnhau eich cwrs, dyddiadau a astudiwyd a gwobr a enillwyd os yn berthnasol.
Mae'r desgiau MyUniHub ar gau, felly, nid ydym yn gallu gweld myfyrwyr wyneb yn wyneb na derbyn ymholiadau ar y ffôn ar hyn o bryd. Cysylltwch â ni ar myunihub@swansea.ac.uk neu cysylltwch â ni ar Sgwrs Fyw yma: https://myuni.swansea.ac.uk/
Codir ffi o £30 am dystysgrif newydd. Cwblhewch y Ffurflen Cais am Dystysgrif Gradd Newydd a'i dychwelyd i'r HybMyfyrio gyda siec yn daladwy i 'Prifysgol Abertawe'. Cewch dalu â cherdyn credyd/debyd hefyd. Cwblhewch y manylion ar y ffurflen neu cysylltwch â'r HybMyfyrio drwy ffonio +44 (0)1792 606000 i drefnu taliad. Byddwn yn derbyn y ffurflen wedi'i chwblhau drwy e-bost i myunihub@abertawe.ac.uk. Sylwer, fodd bynnag, mai eich cyfrifoldeb eich hun yw'r risg os anfonwch fanylion eich cerdyn drwy e-bost.