Os ydych yn fyfyriwr Cartref/UE gallwch drefnu Debyd Uniongyrchol ar ddechrau’r tymor a gaiff ei dalu mewn dau randaliad. Ar gyfer myfyrwyr sy’n dechrau ym mis Medi ar gyfer sesiwn 2016/17, y dyddiadau hyn fydd 10 Tachwedd 2016 a 10 Chwefror 2017.
Mae’n rhaid i fyfyrwyr rhyngwladol dalu o leiaf 50% o’u ffioedd cyn cofrestru, ond gellir talu’r balans unrhyw bryd cyn dyddiad yr ail randaliad.
Ceir rhagor o wybodaeth yma: http://www.swansea.ac.uk/cy/israddedig/sefydlu/sutidalueichffioedd/