Er nad ydych chi o’r farn bod angen cymorth arnoch chi ar hyn o bryd, rydym yn argymell eich bod yn trafod y cymorth a allai fod ar gael i chi â Gweithiwr Achos Anabledd. Gallai cymorth fod ar gael a allai fod yn ddefnyddiol i chi, ond nad oeddech chi’n ymwybodol ohono neu nad oeddech wedi ei ystyried. Os byddwch chi’n dal i fod o’r farn nad oes angen cymorth arnoch chi ar ôl cwrdd â Gweithiwr Achos Anabledd, mae hynny’n iawn. Gallech ddychwelyd i siarad â Gweithiwr Achos Anabledd ar unrhyw adeg os byddwch yn newid eich meddwl yn nes ymlaen.
Gellir trefnu apwyntiad drwy ffonio 01792 606000 neu drwy anfon neges e-bost i myunihub@swansea.ac.uk
Gallwch hefyd alw heibio Derbynfa MyUniHub ym mloc Abbey Stable ar Gampws Singleton neu Ganolfan Wybodaeth y Tŵr ar Gampws y Bae.