Bydd angen tystiolaeth arnoch chi fod gennych chi anabledd hirdymor sy’n effeithio arnoch chi o ddydd i ddydd (e.e. llythyr meddygol). Fel arall, bydd angen adroddiad seicolegydd addysg diweddar neu adroddiad arbenigwr SpLD i roi tystiolaeth o Ddyslecsia neu anghenion dysgu ychwanegol eraill. Os nad ydych chi’n siŵr, trefnwch apwyntiad i weld Gweithiwr Achos Anabledd.
Gellir trefnu apwyntiad drwy ffonio 01792 606000 neu drwy anfon neges e-bost i myunihub@swansea.ac.uk
Gallwch hefyd alw heibio Derbynfa MyUniHub ym mloc Abbey Stable ar Gampws Singleton neu Ganolfan Wybodaeth y Tŵr ar Gampws y Bae