Cysylltwch â'ch Ysgol/Coleg i drafod gwneud cais i astudio o bell. Bydd rhaid gwneud trefniadau gyda nhw i barhau â'ch sesiynau goruchwylio cyn gadael Abertawe. Dylid parhau i gynnal y sesiynau hyn gan ddefnyddio dulliau gwahanol (e.e. Zoom) pan na fydd yn bosib eu cynnal wyneb yn wyneb.
Rhaid i fyfyrwyr ar fisa Llwybr Myfyrwyr Haen 4 gynnal o leiaf 50% o'u sesiynau goruchwylio yn bersonol neu drwy ddull addas arall (e.e. Zoom) bob semester academaidd, oni bai y caiff ei gytuno gyda'r Gwasanaethau Cydymffurfiaeth Myfyrwyr.