Asesu eich Dyddiadur


Mae'n bosibl graddio'r dyddiaduron, a chael y canlyniadau i ymddangos yn y Ganolfan Graddau. Gellir dod o hyd i fanylion ynghylch sut i alluogi'ch dyddiadur i gael ei asesu yn y canllaw "Creu Dyddiadur Newydd”.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn y dyddiadur perthnasol.
Cliciwch ar y botwm Gosodiadau a dewis Asesiadau.  

Bydd y sgrin sy'n ymddangos yn rhoi crynodeb bras i chi o'r blogiadau, barnau a sylwadau.

Ceir rhestr ychydig yn fanylach oddi tano, yn dangos cyfranogwyr unigol a dadansoddiad o'u blogiadau.

*Sylwer* - dim ond y rheini sydd wedi agor y dyddiadur fydd yn ymddangos yn y rhestr hon:

I raddio cyfranogiad, cliciwch ar y botwm Canolfan Graddau. Bydd hyn yn mynd â chi at y ganolfan graddau lawn. (Bydd hyn yn agor mewn ffenestr newydd.)

Sgroliwch i'r golofn berthnasol, gan glicio ym mhob cell i nodi'r graddau perthnasol.

Ar ôl i chi nodi'r graddau, gallwch glicio ar yr arwyddion a dewis yr opsiwn Sylwadau Cyflym.

Mae'r Ganolfan Graddau'n cadw'r wybodaeth yn syth ar ôl i chi glicio y tu allan i bob cell, felly unwaith i chi orffen, caewch y ffenestr bori.

Diweddariad diwethaf:
24-10-2016 17:58
Awdur: :
Helen
Adolygu:
1.0
Cyfradd gyfartalog:0 (0 Votes)
 

Ni allwch gyflwyno sylw ar y cofnod hwn

Chuck Norris has counted to infinity. Twice.

Records in this category

10 UCHAF RSS

  1. Beth ydw i’n ei wneud pan fo rhybudd cynnwys ... (839399 views)
  2. Ni allaf fewngofnodi i'm cyfrif ar y fewnrwyd/Blackboard. A ... (671487 views)
  3. Sut i ofyn am fynediad i safle modiwl neu ... (98651 views)
  4. Asesu eich Wiki (85334 views)
  5. Ychwanegu/Rheoli Teclynnau yn eich Podlediad (28250 views)
  6. Asesu eich Blog (23897 views)
  7. Ychwanegu/Rheoli Teclynnau yn eich Wiki (22281 views)
  8. Asesu eich Dyddiadur (13221 views)
  9. Ychwanegu/Rheoli Teclynnau yn eich Dyddiadur (10277 views)
  10. Allforio eich Wiki (6564 views)

Tags