Mae’n hanfodol eich bod yn rhoi gwybod i’ch tiwtor personol neu aelod o weinyddiaeth y Coleg ar frys os nad ydych yn gallu mynychu arholiad. Os na allwch gysylltu ag aelod o staff yn eich Coleg dylech ffonio'r swyddfa arholiadau ar 01792 602164. Os rhoddir gwybod i’r Brifysgol am hyn o flaen llaw, mae’n bosibl y bydd modd gwneud trefniadau arbennig i chi sefyll yr arholiad os bydd angen.