Mae angen i fyfyrwyr sy'n ddeiliaid Haen 4/Llwybr Myfyrwyr ddangos lefelau uchel a chyson o lefelau o gyfranogiad er mwyn cynnal eu statws fisa.
Bydd y Gwasanaethau Cydymffurfiaeth Myfyrwyr yn cysylltu â myfyrwyr Haen 4/Llwybr Myfyrwyr sydd wedi bod yn y categori 'dim' am 21 o ddiwrnodau'n barhaus a bydd yn rhaid i'r iddynt fynd i gyfarfod i drafod eu diffyg cyfranogiad.
Rhaid i'r Brifysgol adrodd am gyfnod sylweddol o ddiffyg cyfranogiad wrth UKVI, a fydd yn cwtogi'r hawl.
Rydym ni hefyd yn ymgymryd â Phwyntiau Gwirio Cyfranogiad Haen 4/Llwybr Myfyrwyr i adolygu cyfranogiad cyffredinol dros Floc Addysgu. Am ragor o wybodaeth, e-bostiwch Tier4Attendance@abertawe.ac.uk