Disgwylir i chi gofrestru ar ddechrau pob blwyddyn o'ch cwrs. Bydd hyn yn ystod miss Medi ar gyfer y rhan fwyaf o fyfyrwyr pan fydd modd cofrestru ar-lein ar gyfer pob cwrs sy'n dechrau ym mis Medi neu Hydref.
Os ydych yn cymryd blwyddyn i ffwrdd o'ch astudiaethau, gallwch gofrestru'n gynharach yn ystod mis Awst a byddwn yn anfon neges e-bost atoch yn eich atgoffa i gofrestru ar-lein.
Ar gyfer myfyrwyr iechyd, meddygaeth, Cwrs Ymarfer y Gyfraith/Diploma yn y Gyfraith i Raddedigion, Hyfforddiant Iaith Saesneg, addysg oedolion, myfyrwyr cyfnewid, myfyrwyr ymweld a myfyrwyrymchwil sy'n dechrau yn ystod misoedd eraill, edrychwch ar yr amserlenni ar gyfer cofrestru'n gynnar a mathau eraill o gofrestru.