Os yw eichcyfranogiad yn y categori 'dim' am 7 niwrnodyn barhaus , bydd y broses monitro cyfranogiad ffurfiol yn dechrau. Yn yr achos hwn, bydd rhywun yn cysylltu â chi i gynnig cymorth; ond, yn ogystal, ,cewch eich rhybuddio y gellir gofyn i chi dynnu'n ôl o'r Brifysgol os ydych yn parhau i golli sesiynau dysgu.
Os yw eich cyfranogiad yn y categori 'dim' am 7 niwrnod yn barhaus (cyfanswm o 14 o ddiwrnodau), byddwn yn cysylltu â chi eto i gynnig cefnogaeth acfe'ch hanogir yn gryf i gysylltu â'ch Coleg/Ysgol i gael cyngor a chefnogaeth.
Os na fydd eich cyfranogiad yn gwella ac mae eich sgôr gyfranogiad yn y categori 'dim' am 7 niwrnod pellach yn barhaus (cyfanswm o 21 o ddiwrnodau), bydd yn rhaid i chi fynd i gyfarfod gorfodol wyneb yn wyneb neu rithwir yn eich Colegneu'ch Ysgol. Diben y cyfarfod hwn fydd trafod eich rhesymau am beidio ag ymrwymo a bydd y Coleg/Ysgol yn ystyried a ydych chi'n gallu parhau â'ch astudiaethau yn y Brifysgol.
Os ydych chi’n dal fisa Haen 4/Llwybr Myfyriwr, mae’r broses fel a ddisgrifir uchod ond bydd yn rhaid i chi gwrdd ag aelod o’r Tîm Monitro yn y Gwasanaethau Cydymffurfiaeth Myfyrwyr i drafod eich rhesymau am beidio â chymryd rhan.
Os na fyddwch chi'n mynd i'r cyfarfod hwn gyda'ch Coleg/Ysgol neu'r Gwasanaethau Cydymffurfiaeth Myfyrwyr, efallai y bydd yn rhaid i chi dynnu'n ôl ac, yn achos Haen 4/Llwybr Myfyriwr a noddir, caiff eich fisa ei chwtogi.
Os na allwch chi gynnig rhesymau boddhaol am eich diffyg cyfranogiad am 21 o ddiwrnodau yn ystod y cyfarfod gyda'ch Coleg/Ysgol neu'r Gwasanaethau Cydymffurfiaeth Myfyriwr, efallai y bydd angen i chi dynnu'n ôl ac, yn achos myfyrwyr Haen 4/Llwybr Myfyriwr a noddir, caiff eich fisa ei chwtogi.
Gwneir pob ymdrech i ystyried yr holl amgylchiadau esgusodol a'r sefyllfa heriol y mae myfyrwyr yn ei hwynebu wrth ystyried yr opsiwn o dynnu'n ôl o'r Brifysgol ac, i fyfyrwyr Haen 4/Llwybr Myfyrwyr, bydd y Gwasanaethau Cydymffurfiaeth Myfyrwyr yn ystyried a yw'n briodol parhau i noddi eich arhosiad yn y DU.
Os caniateir i chi barhau, caiff cyfranogiad ei fonitro'n ofalus gan y Coleg/Ysgol neu'r Gwasanaethau Cydymffurfiaeth Myfyrwyr am 7 niwrnod.