Os ydych yn methu mynd i'ch cyfarfod misol heb ganiatâd ymlaen llaw, bydd y broses monitro presenoldeb ffurfiol yn cychwyn.
Os nad ydych chi'n Fyfyriwr Haen 4,bydd eich Ysgol/Coleg yn cysylltu â chi i'ch cynghori chi am ganlyniadau diffyg presenoldeb a chyfranogiad a gofynnir i chi aildrefnu eich cyfarfod â'ch goruchwyliwr.
Os ydych chi'n fyfyriwr ar Lwybr Haen 4 a noddir gan y Brifysgol, cewch eich gwahodd i gyfarfod gyda'r Uned Cydymffurfiaeth Myfyrwyr. Os na fyddwch yn mynychu'r cyfarfodydd hyn, fel arfer bydd yn ofynnol i chi adael y Brifysgol.