Mae’r Weithdrefn Apeliadau’n berthnasol ar gyfer myfyrwyr sy’n:
- Cael eu hatal rhag parhau â’u hastudiaethau rhan o’r ffordd trwy’r lefel neu’r rhan astudio, neu
- sy’n methu â chymhwyso er mwyn parhau i’r cyfnod nesaf yn eu hastudiaethau, neu
- sy’n dymuno apelio yn erbyn canlyniad terfynol neu ddyfarniad cymhwyster terfynol, neu
- os bydd goblygiadau penderfyniad am ddilyniant yn cael effaith sylweddol ar ganlyniad cyflawn y myfyriwr.