- Os ydych am newid ystafelloedd o fewn eich preswylfa bresennol, neu symud i breswylfa arall, neu os nad ydych yn hapus yn eich llety am unrhyw reswm, yna dylech alw i mewn i Wasanaethau Preswyl a chwblhau ffurflen gais am Drosglwyddiad. Os yw'r sefyllfa'n fwy difrifol, cewch ofyn am gael siarad yn breifat â rhywun a fydd yn gallu gwrando arnoch a rhoi cyngor i chi.
- Ni ellir cyflwyno ceisiadau trosglwyddo ystafell yn ystod wythnos gyntaf y sesiwn.
- Pan fo ystafell addas ar gael, byddwn yn cysylltu â chi dros y ffôn neu drwy e-bost. Bydd cyfle gennych i edrych ar yr ystafell newydd cyn penderfynu os ydych am symud.
- Weithiau mae'n bosib gwneud trosglwyddiadau o fewn ychydig ddyddiau neu ychydig wythnosau. Fodd bynnag, efallai y bydd rhaid i chi aros sawl wythnos, neu fisoedd hyd yn oed, os nad oes unrhyw ystafelloedd addas ar gael.
Beth os nad ydw i'n hapus yn fy ystafell?
- Diweddariad diwethaf:
- 24-06-2016 11:33
- Awdur: :
- Residential Services
- Adolygu:
- 1.0
Ni allwch gyflwyno sylw ar y cofnod hwn