Os ydych yn ystyried symud o'r llety, cynghorir yn gryf i chi gysylltu â SAS. Os ydych am newid ystafell yn eich eiddo cyfredol, neu symud i eiddo arall a reolir gan y Brifysgol, dylech ddod i SAS a chwblhau Ffurflen Cais am Drosglwyddo. Os yw’r sefyllfa’n fwy difrifol, gallwch wneud cais i siarad â rhywun yn breifat, a fydd yn gallu gwrando arnoch a rhoi cyngor i chi.